Dyma wahoddiad: i ddathlu garddio trwy’r Gymraeg, a’r Gymraeg trwy arddio!
Isod cewch gasgliad o adnoddau yn y Gymraeg am arddio neu am blanhigion. Mae grwpiau a digwyddiadau ar dop y rhestr – beth well na chwrdd ac eraill gyda’r un diddordeb?
Oes gennych hoff adnoddau, llyfrau, rhaglenni, grwpiau, mudiadau, gwmnïau neu gyfrifon sydd yn eich helpu i arddio yn y Gymraeg? Neu ydych chi yn’n meddwl dyle eich grwp neu mudiad cael ei ddangos yma? Rhowch wybod i ni.
Ar gyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch yr hashnod #geirfagarddio i’w rhannu gydag eraill hefyd.
Trwy rannu adnoddau ac ymchwilio gyda’n gilydd gallwn tyfu ein geirfa – yr un pryd a’n planhigion!
=================
Cwrdd
Grwpiau sydd yn cwrdd yn gorfforol
- Aberystwyth: Gardd Gymunedol Penglais
- Caerdydd: Digwyddiadau Garddio y Gymraeg (rhestr e-bost), yn cynnwys Gerddi Rheilffordd
- Llandysul, Ceredigion: Yr Ardd – ar facebook ac instagram
Ydych chi yn rhan o rŵp garddio? Beth am estyn gwahoddiad i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith yn eich gweithgardeddau garddio? Mae cortynau gwddf ar gael o wefan Comisiynydd y Gymraeg a Dysgu Cymraeg Rhowch wybod os hoffech eich grŵp bod ar y rhestr yma.
Digwyddiadau arbennig (corfforol)
- Y Sioe Frenhinol – Pentref Garddwriaeth yn rhan o’r Sioe yn Llanelwedd ym mis Orffennaf.
Grwpiau arlein,
- Garddio a Mwy – grwp facebook bywiog
===============
Gwylio
Garddio a Mwy Rhaglen deledu wythnosol yn ystod y tymor tyfu. Gwyliwch ar S4C Clic neu BBC Iplayer. Hefyd cylchlythyr, sianeli cyfryngau cymdeithasol a clipiau defnyddiol.
Adam Yn Yr Ardd ar YouTube
Tyfu’r Dyfodol ar youtube – fideos ddwyieithog defnyddiol (2020 – 2021)
===============
Darllen – arlein
Wefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol
Adam yn yr Ardd – hefyd tudalen facebook ac Instagram
Geirfa Garddio ar Instagram ac ar Facebook
Bwyta Ein Gerddi ar Instagram a facebook
Plas Brondanw – Gerddi a Chaffi ar facebook
Tyfu Dyfi – hefyd ar facebook ac instagram
Gweler hefyd sianeli Garddio a Mwy
===============
Darllen – printiedig
Llyfrau ac adnoddau garddwriaeth:
Dere i Dyfu gan Adam Jones
Llyfr bywiog i blant gan Adam yn yr Ardd – geirfa defnyddiol i oedolion hefyd
O’r Egin I’r Gegin gan Jen a Russel Jones
Dewch i ddysgu sut i dyfu ffrwythau a llysiau yn eich gardd o fis Ionawr i fis Rhagfyr, gyda chanllawiau a ryseitiau sy’n cyd-fynd â’r tymor.
Gardd Mewn Tref
Cyfrol ddwyieithog, wedi ei darlunio’n hardd mewn lliw llawn, yn adlewyrchu cyfoeth amryfal agweddau ar ardd fechan yr awdur. Cynhwysir hefyd dablau diddorol a mynegai defnyddiol.
Calendr Garden Organic – Siart wal A2 yn dangos pryd i hau a chynaeafu. Ar hyn o bryd ar gael fel rhan o aelodaeth yn unig.
Hefyd, llyfrau garddwriaeth sydd allan o brint – weithiau ar gael ail-law:
- 101 Gair o Gyngor – Cynllunio Gardd Fechan – ISBN-10 : 1859027741, ISBN-13 : 978-1859027745
- Llyfr Garddio gan JE Jones, cyhoeddiwyd 1969
===============
Dysgu Enwau Cymraeg am Blanhigion
Ap a gwefan:Plantnet – wefan ac hefyd app ar gael, medrwch lanlwytho llun o’r planhigyn o’ch blaen i ddod o hyd i’w enw
Ap: Ap Geiriaduron ar gyfer eich fôn clyfar. Mae’r cynnwys oddi wrth lyfrau Cymdeithas Edward Llwyd isod.
Llyfrau:
Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn Rhan o gyfres Enwau Safonol gan Gymdeithas Edward Llwyd, dyma restr o enwau Botanegol, gydag un enw cyffredin Cymraeg a Saesneg am bob un, gyda Mynegai yn y tair iaith.
Y Geiriadur Mawr â thudalennau yn rhestri planhigion a ffrwythau
Hefyd allan o brint ond ar gael yn ail-law:
- Blodau’r Maes a’r Ardd ar Lafar Gwlad gan Gwenllian Awbery ISBN 10: 0863813305 ISBN 13: 9780863813306 – Rhestr o enwau cyffredin ac ym mha siroedd mae’r enwau gwahanol yn cael eu defnyddio.
===============
Gwasanaethau
Adam Yn Yr Ardd – yn cynnig Ymgynghoriad Gardd a gwasanaethau eraill, yn cynnwys i ysgolion
Helen Scutt – cynlluniwr gerddi sydd yn siaradwr Cymraeg
Bwyta Ein Gerddi – Eirlys Rhiannon – gwasanaeth garddio yng Nghaerdydd, hefyd digwyddiadau garddio yn yr iaith Gymraeg
Tyddyn Sachau – canolfan Arddio yn agos i Bwllheli
Sturrock a’u meibion (wefan a gwasanaeth yn Saesneg) Mathau o ffrwyth Cymreig, gyda hanesion diddorol a labeli dwyieithog.
===============
Sefydliadau
Mae’r llefydd neu mudiadau yma gyda chysylltiad i’r byd garddwriaethol ac yn cynnig eu wefan neu cylchlythyr yn ddwyieithog. Noder falle na fydd pob rhan o’u gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg:
Cadwch Cymru’n Daclus yn enwedig gweler Llefydd Lleol ar gyfer Natur
Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru – Social Farms & Gardens
Elusen sy’n cefnogi gerddi cymunedol a mentrau tyfu eraill. Mae eu cylchlythyr e-bost yn ddwyieithog.
Paramaethu Cymru – Gwyl blynyddol, grwpiau lleol, a grwp arlein: Paramaethu Cymru ar facebook
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
===============
Nwyddau
Driftwood Designs (Lizzie Spikes):
– Blwyddyn o Lysie – calendr defnyddiol am dyfu a chynaeafu: print A3 neu carden
– Siart Blodau Gwyllt: print A3 neu carden
Arth Gwyn ar Etsy – Crys T Blodau Gwyllt, a nwyddau eraill
===============
Ac hefyd…
Adnoddau am Blanhigion, Bywyd Gwyllt a Bwyd
Wefannau a grŵpiau
Geiriau Gwyllt – blog arlein prosiect Mentrau Iaith am fywyd gwyllt
Llên Natur – wefan am fywyd gwyllt oddi wrth Cymdeithas Edward Llwyd, hefyd grwp facebook bywiog: Cymuned Llên Natur.
Llyfrau
Llysiau Rhinweddol pytiau bach am blanhigion
Afalau Cymru gan Carwyn Graves – hanes afalau cynhenid Cymru o’r cyfnod cynnar hyd at yr ugeinfed ganrif
Gwreiddiau gan Medwyn Williams. Hunangofiant brenin y llysiau.
Blodau Gwyllt Cymru ac Ynysoedd Prydain
Llyfr Natur Iolo Llyfr safonol, cewch wybodaeth am bron bob rywogaeth o greadur a phlanhigion.
Yr Ardd Llyfr i blant ac oedolion am fywyd gwyllt yr ardd.
Cyfres Doctor Dail gan Bethan Wyn Jones – Gwybodaeth byd natur a byd meddygol am ddail, blodau a phlanhigion; mewn lliw llawn drwyddynt.
Doctor Dail 1, Doctor Dail 2, Doctor Dail 3
Llyfrau gan Mair Williams – Llên Gwerin Planhigion a Choed: Yn Ymyl Ty’n-y-Coed Hefyd ar gael yn y gyfres: Ddoi di Dei?
Llyfrau Ryseitiau gan Nerys Howells – dwyieithog, gan ddefnyddio cynnyrch lleol.
Cywain / Harvest: Ryseitiau o’r Ardd / Recipes from the Garden
Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season
Cymru ar Blât/Wales on a Plate
Llyfrau i blant
Byd yr Ardd Lysiau
Wyt Ti’n Gwybod?: yn yr Ardd
Cyfrinach y Crochan – am gompostio!
Cyfres Ffeithiau! Planhigion
===============